‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda Grace Jones, sydd wedi ei geni a'i mhagu yn Seland Newydd ac wedi dysgu Cymraeg, a hynny ar ôl cyfarfod ei gŵr Llion pan aeth ef allan i weithio fel cneifiwr i Seland Newydd. Fe dreuliodd Grace gyfnod yng Nghymru pan ddaeth hi a Llion i fyw yn Nebo, ger Llanrwst am gyfnod. Tydy Grace ddim wedi cael unrhyw wersi Cymraeg ffurfiol - mae hi wedi dysgu'r iaith drwy fyw a gweithio ymhlith Cymry pan oedd yng Nghymru ac wrth sgwrsio a gwrando ar Llion yn siarad. Bellach mae Grace a Llion wedi dychwelyd yn ôl i fyw i Seland Newydd, mae nhw newydd brynu fferm ac yn rieni balch i fab bach sydd yn ddwy oed.
--------
38:28
Podlediad Pigion y Dysgwyr, Mai 7, 2025
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Ebrill yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennodCLIP 1
Cynyddu: To increase
Sionc: Lively
Drygionus: Naughty
Ambyti nhw ffordd arall o ddweud Amdanyn nhw
Efeilliaid: Twins
Yn gwmws: Exactly
Cerrig milltir: MilestonesCLIP 2
Penillion: Verses
Gorchymyn: Command
Bwrw mlaen : To get on with it
Egni: Energy
Ysgwyddo: To shoulder
Tewch â sôn: Don’t mention
Rhyfedda: Strangest
Dod i ben: To fulfil
Pellter: Distance
Helaeth: Extensive CLIP 3
Safbwynt: Point of view
Addas: Suitable
Hoyw: Gay
Uchelgais: Ambition
Mewnblyg: Introverted
Angerdd: Passion
Gwrywaidd: Masculine
Rhwydwaith: Network
Galluogi;: Enabling
Awydd: Desire
Gweddnewid: To transform
Adlewyrchu: To reflectCLIP 4
Coelio ffordd arall o ddweud Credu
Dychmygu: To imagine
Hedyn: Seed
Diarth, neu dieithr: Foreign
Dychrynllyd: Frightening
Ben i waered; Upside down
Defnyddiol : Useful
Gwirioni; To doteCLIP 5
Llysgenhadon: Ambassadors
Hybu: To promote
Annog: To encourage
Her: A challenge
Ymgymeryd: To undertake
Yn yr un gwynt: In the same breath
Yn uniongyrchol: Directly
Codi ymwybyddiaeth: Raising awareness
Ysbrydoledig; Inspiring
Gorchfygu; To conquer
Brwydr: Battle
Cynrychioli; To representCLIP 6
Cyflwynydd: Presenter
Rhyddid i’r celfyddydau; Freedom for the arts
Pennaeth; Head
Cyfweliad; Interview
Fatha ffordd arall o ddweud Fel
Cytundeb: ContractCLIP 7
Maeth: Nutrition
Deilen; A leaf
Gwrthsefyll heintiau; To withstand diseases
Adweithiad; Reaction
Cyfraddau; Rates
Gwyddonol: Scientific
Honni: To claim
Drudfawr: Expensive
Cnydau; Crops
Graddfa diwydiant; Industrial scaleCLIP 8
Cadarnhaol: Positive
Yn awyddus: Eager
Sefydlu yr elusen; Establish the charity
Nerth; Strength
Ymdopi; Coping
Teyrngedau: Tributes
I’r eithaf; To the full
Mwyafrif; Most
Ffugenw; Nickname
Anferth; Huge
--------
32:22
Sgwrsio
‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Ben McDonald, ei ffrind ers dyddiau ysgol, ac mae'r ddau erbyn hyn yn dysgu Cymraeg.
--------
35:57
Podlediad Pigion y Dysgwyr, Ebrill 2, 2025
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Mawrth yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.GEIRFACLIP 1
Cadair olwyn: Wheelchair
Fatha - ffordd arall o ddweud - Fel
Profiad: Experience
Gwerthfawrogi bywyd: To appreciate life
Rhwystredig: Frustrating
Goleuni: Light
Coelio - ffordd arall o ddweud - Credu
Tîm elusennol: Charity Team
Ymateb: To respond
Difaru: RegrettingCLIP 2
Cyfarwydd: Familiar
Diflannu: Disappearing
Chwyldroadol: Revolutionary
Cenhedlaeth: Generation
Gohebu: Reporting
Lloeren: Satellite
Cael gwared ar: To get rid of
Cynnyrch craidd: Core product
Canolbwyntio: ConcentratingCLIP 3
Dymchwel: To demolish
Ymwybodol: Aware
Atyniad: Attraction
Ymgyfarwyddo: To familiarize oneself
Torf: A crowdCLIP 4
Ymladdwr cawell: Cage fighter
Pwysau: Pressure
Bant - ffordd arall o ddweud - I ffwrdd
Llefain - yn y gogledd mi fasen ni’n dweud - CrioCLIP 5
Pencampwraig: Champion
Mocha o gwmpas: Messing around
Cystadleuol: Competitive
Llyfn: Smooth
Llechen: Slate
Galluogi: To enableCLIP 6
Saer: Carpenter
Prin: Scarce
Sa i’n cofio - ffordd mae rhai’n dweud - Dw i ddim yn cofio
Dieithr: Unfamiliar
Mwyach: Any moreCLIP 7
Penodol: Specific
Datgelu: To disclose
Gwatswch allan: Look out
Dail: Leaves
Gwythiennau: Veins
Bwytadwy: Eatable
Caniatâd: Permission
Tlws: Pretty
Sawrus: SavouryCLIP 8
Cuddio: Hiding
Dinistr: Destruction
Cragen: Shell
Llecyn: A small place
Deiliach: Herbage
Difa: To kill
--------
31:27
Pont: Rob Lisle
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Rob Lisle. Cafodd Rob Lisle ei fagu yn yr Iseldiroedd ac yn Abertawe. Pensaer yw Rob ac ar ôl cyfnod yn byw yn Llundain penderfynodd ddychwelyd gyda’i deulu i Gymru i Sir Gaerfyrddin. Mae’n byw yno gyda’i wraig Sian a’r plant. Penderfynodd ddysgu’r Gymraeg er mwyn cefnogi addysg ei blant a hefyd er mwyn ymdoddi i’r gymuned leol.
Casgliad o bodlediadau ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd. Sgyrsiau diddorol o bob math fydd yn gymorth ac yn gwmni i chi ar eich taith fel siaradwr Cymraeg newydd. A collection of podcasts for Welsh learners.