Skip to content
Radio Logo
PodcastsEducationYr Hen Iaith

Yr Hen Iaith

Mimosa Cymru
Yr Hen Iaith
Latest episode

119 episodes

  • Yr Hen Iaith

    Pennod 98 - O. M. Edwards

    22/10/2026 | 33 mins.
    Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn ystyried rhai o gyfraniadau cynnar Owen Morgan Edwards (1858-1920). Ac yntau’n diwtor hanes yn Rhydychen, disgwylid iddo gyhoeddi ymchwil o bwys yn ei faes arbenigol, sef cyfnod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, ond Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o’i ysgrifau a defnyddiodd ei wybodaeth am hanes Ewrop a Chymru er mwyn llunio ysgrifau poblogaidd sy’n hyrwyddo agenda genedlaetholgar.

    A nodwn wrth fynd heibio fod y modd y mae’n trafod Protestaniaeth gynnar yn arddangos y math o wrth-Gatholigiaeth sy’n hollbresennol ar dudalennau gwasg gyfnodol Gymraeg y cyfnod, er bod gan driniaethau O. M. Edwards veneer boneddigaidd. Sylwn hefyd y modd y mae’n honni bod uchafbwyntiau llenyddol Cymraeg yn ganolog i bob ‘deffroad’ cenedlaethol Cymru. Wrth gofio’i waith diflino fel golygydd sawl cylchgrawn cenedlaethol, rhyfeddwn at hyd a lled ei weithgarwch, gan gyfeirio at gofiant gorchestol Hazel Walford Davies a nodi hefyd fod O. M. Edwards ei hun a rhai o’r bobl o’i gwmpas wedi dioddef oherwydd hyn oll.

    *
    Continuing with a theme which is shot through recent episodes, namely the interrelatedness of Welsh-language literary culture and the Cymru Fydd movement, this episode considers some of the early contributions made by Owen Morgan Edwards (1858-1920). A history tutor in Oxford, he was expected to produce substantial research in his special field, the history of the Renaissance and Protestant Reformation, but Welsh was the language of most of his writings and he used his knowledge am the history of Europe and Wales in order to fashion popular pieces which promote a nationalistic agenda.

    We note in passing that the way in which he discusses early Protestantism displays the kind of anti-Catholicism which is omnipresent on the pages of the Welsh periodical press in the period, although O. M. Edwards’ treatments have a more polite veneer. We also take note of the way he maintained that Welsh literary highpoints were and are central to each of Wales’ national ‘awakenings’. While recalling his tireless work as the editor of several national periodicals, we are amazed by the breadth and depth of his activities, referring to Hazel Walford Davies’s masterful biography and also noting that O. M. Edwards himself and some of the people around him suffered because of all of this.

    Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones
    Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru
    Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes

    Darllen Pellach/Further Reading:
    - Hazel Walford Davies, Writers of Wales: O.M. Edwards (1988).
    - Hazel Walford Davies, O.M.[:] Cofiant Syr Owen Morgan Edwards (2020).
  • Yr Hen Iaith

    Pennod 97 - Iwtopia Bardd a Beirniadaeth Ysgolhaig: John Morris-Jones

    08/10/2026 | 35 mins.
    Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad cenedlaetholgar hwnnw a llenyddiaeth Gymraeg y 1890au. Gwelwn dinc iwtopaidd yn yr awdl hon yn ogystal â beirniadaeth lem ar gyfalafiaeth.

    Nodwn fod JMJ yn ddarlithydd ifanc yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru (Prifysgol Bangor bellach) a bod ei yrfa yn dechrau tuedd sy’n parhau’n rhan o’r Adran Gymraeg honno, gyda’i staff yn pontio rhwng ymchwil academaidd ac ysgrifennu creadigol. Awn ati wedyn i drafod y modd y defnyddiai’r darlithydd ifanc hwnnw ei ddysg i wasanaethu’r genedl mewn modd ymarferol hefyd, ac yntau’n gadeirydd y pwyllgor a geisiai sefydlogi orgraff yr iaith Gymraeg. Gwelwn hefyd fod rhyddiaith academaidd JMJ yn bell o fod yn sych a’i fod yn bell o fod yn burydd iaith ystrydebol!

    *
    A Poet’s Utopia and a Scholar’s Criticism: John Morris-Jones

    Contrasting sharply with the long-winded pryddestau of the ‘New Poets’ whom were discussed in the last episode, we begin this time with ‘Cymru Fydd’, the finely-wrought awdl by John Morris-Jones (1864-1929). But while stressing the elegance and economy of language which characterizes JMJ’s poems, we must pause once again and discuss the interwovenness of that nationalistic movement (Cymru Fydd) and Welsh literature in the 1890s. We find that this awdl strikes a utopian tone as well as presenting pointed criticism of capitalism.

    We note that JMJ was a young lecturer in the University College of North Wales (now Bangor University) and that his career began a tendancy which continues to be part of that Welsh Department’s culture, with staff bridging between academic research and creative writing. We then turn to discuss the way in which this young lecturer used his learning to serve the nation in a practical way as chair of the committee which sought to standardize Welsh orthography. We also see that JMJ’s academic prose is far from being dry!

    Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones
    Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru
    Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes

    Darllen Pellach/Further Reading:
    - Allan James, John Morris-Jones (2011).
    - Huw Walters, John Morris-Jones, 1864-1929: Llyfryddiaeth Anodiadol (1987).
    - Richard Wyn Jones, Rhoi Cymru’n Gyntaf: Syniadaeth Wleidyddol Plaid Cymru, cyfrol 2 (yn ymddangos yn 2027). Caiff mudiad Cymru Fydd lawer o sylw yn y gyfrol hon.
  • Yr Hen Iaith

    Pennod 96 - Fflangell Elphin: Barddoniaeth a Beirniadaeth Lenyddol yn y 1890au

    24/09/2026 | 27 mins.
    Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895.

    Ystyriwn feirniadaeth afieithus Elphin wrth iddo fflangellu’r ‘Bardd Newydd’ a nodi bod ganddo bwyntiau difrifol iawn er gwaethaf ei ormodiaeth ddychanol. Cydymdeimlwn â dwy ochr y ddadl lenyddol hon ac awgrymwn ei bod yn fodd i bwyso a mesur cyflwr barddoniaeth Gymraeg ar ddiwedd y ganrif. Ac mae llawer o’r cwestiynau canolog yr un mor berthnasol wrth ystyried barddoniaeth Gymraeg heddiw (e.e., a yw’n bosibl bod ystyriaethau ffurfiol yn gorlywodraethu weithiau? Beth yw rôl dysg mewn cerdd? A.y.y.b.). Rydym ni’n diffinio’r ‘Bardd Newydd’ a ‘Rhamantiaeth’ wrth fynd heibio hefyd.
    *
    Elphin’s Whip: Poetry and Literary Criticism in the 1890s

    We have fun in this episode while looking at a piece by ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) which was published in Y Geninen in 1895.

    We consider Elphin’s gleeful criticism as he scourges the ‘Bardd Newydd’ (‘New Poet’) and note that he has very serious points despite his satirical excess. We sympathize with both sides of this literary debate and we suggest that it’s a way of assessing the state of Welsh poetry at the end of the century. And many of the central questions are just as relevant to those who consider Welsh poetry today (for example, is it possible that formal considerations sometimes dominate? What is the role of learning in a poem? And etc.). We also define the ‘New Poet’ and ‘Romanticism’ in passing.

    Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones
    Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru
    Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes

    Darllen Pellach/Further Reading:
    - Ann Rhian Hughes (gol.), Beirniad Llym Gynddeiriog: Ysgrifau a Cherddi Elphin (Dalen Newydd, 2026).
    - Cewch ddarllen Y Geninen ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/browse/2354296,
  • Yr Hen Iaith

    Pennod 95 - ‘A Natur sy’n canu ei hanthem i mi’: Islwyn a’i ‘Storm’

    10/09/2026 | 34 mins.
    Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’.

    Yn ôl Glyn Tegai Hughes, hwn oedd bardd Cymraeg gorau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond er i Islwyn ennill enw fel bardd o bwys yn ystod ei oes trwy gystadlu’n aml mewn eisteddfodau ac ati, nid oes llawer sy’n arbennig am yr holl farddoniaeth eisteddfodol hon. Mae’r bardd hwn yn haeddu lle anrhydeddus yn hanes llenyddiaeth Gymraeg oherwydd un gerdd a gyfansoddodd, ‘Y Storm’. Ond mae’r gerdd honno’n hir iawn – dros 6,000 o linellau! Dim ond ar ôl i Islwyn farw y cyhoeddwyd y bryddest fawr, a chafodd ddylanwad mawr ar genhedlaeth arall o feirdd Cymraeg. Myfyriwn ynghylch rhai dyfyniadau dethol wrth i ni gnoi cil ar natur unigryw y gerdd uchelgeisiol hon.

    **
    ‘And it’s Nature who’s singing its anthem to me’: Islwyn and his ‘Storm’

    We discuss William Thomas (1832-1878) in this episode, a poet remembered as ‘Islwyn’.

    According to Glyn Tegai Hughes, he was the best Welsh-language poet of the nineteenth century. But although Islwyn won a name as a poet of significance during his lifetime by competing often in eisteddfodau and etc., there is not much of worth in all of this eisteddfodic poetry. This poet deserves an honoured place in the history of Welsh literature because of one poem he composed, ‘The Storm. But this poem is very long – over 6,000 lines! It was only after Islwyn died that the great pryddest was published, and it had a big influence on another generation of Welsh poets. We consider a few choice quotes as we mull over the unique nature of this ambitious poem.

    Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones
    Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru
    Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes

    Darllen Pellach/Further Reading:
    - ‘Y Storm’ Gyntaf gan Islwyn, gol. Meurig Walters (1980).
    - Glyn Tegai Hughes, ‘Islwyn and Y Storm’, in Hywel Teifi Edwards (ed.), A guide to Welsh literature c. 1800-1900 (2000).
    - Meredydd Evans, ‘Y Storm’ gyntaf (1988).
    - Alun Llwelyn-Williams, Y Nos, Y Niwl a’r Ynys [:] Agweddau ar y Profiad Rhamantaidd yng Nghymru 1890-1914 (1960).
  • Yr Hen Iaith

    Pennod 94 - Profedigaethau Enoc Huws: Daniel Owen (rhan 2)

    27/08/2026 | 27 mins.
    Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws.

    Dechreuwn gyda brawddeg agoriadol y nofel – o bosibl y frawddeg enwocaf yn holl hanes ffuglen Gymraeg – ac ystyried arwyddocâd y feirniadaeth gymdeithasol y mae’n gerbyd iddi. Dyma’r nofelydd o’r Wyddgrug ar ei orau, ac yntau’n awdur a oedd yn ddigon dewr ac yn ddigon hyderus i edrych yn feirniadol ar ei gymdeithas ei hun. Mae hefyd yn dychanu diwylliant llenyddol Cymraeg cyfoes a’r traddodiad crefyddol yr oedd yn perthyn iddo. Rhyfeddwn wrth sylwi bod llawer o ddychan y nofel yn ymddangos yn hynod gyfoes, a Richard Wyn Jones yn gweld Susi Trefor fel influencer arwynebol ar y cyfryngau cymdeithasol heddiw!

    *
    The Tribulations of Enoc Huws: Daniel Owen (part 2)

    We have fun in this episode while discussing Daniel Owen’s satirical masterpiece, The Tribulations of Enoc Huws.

    We begin with the novel’s opening sentence – possibily the most famous sentence in the entire history of Welsh fiction – and considering the social critique for which it is a vehicle. This is the novelist from Yr Wyddgrug (Mold) at his best, an author who was brave enough and confident enough to look critically at his own society. He also satirizes contemporary Welsh literary culture and the religious tradition to which he himself belonged. We are amazed as we note that much of the novel’s satire appears very contemporary, and Richard Wyn Jones sees Susi Trefor as a superficial influencer on today’s social media!

    Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones
    Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru
    Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes

    Darllen Pellach/Further Reading:
    - https://www.llyfrgell.cymru/darganfod-dysgu/arddangosfeydd-arlein/llyfrau/rhyddiaith-a-nofelau/profedigaethau-enoc-huws
    - Rydym ni’n deall y bydd Melin Bapur yn ailgyhoeddi Profedigaethau Enoc Huws cyn bo hir.
More Education podcasts
About Yr Hen Iaith
Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.
Podcast website

Listen to Yr Hen Iaith, The Mel Robbins Podcast and many other podcasts from around the world with the radio.net app

Get the free radio.net app

  • Stations and podcasts to bookmark
  • Stream via Wi-Fi or Bluetooth
  • Supports Carplay & Android Auto
  • Many other app features
Yr Hen Iaith: Podcasts in Family